Hwb Cartref - Ynni Lleol - Amodau defnyddio

 

Mae’r Pecyn Hwb Cartref yn cynnwys yr eitemau a ganlyn:

  • 1 x bocs
  • 1 x Hwb Cartref Raspberry Pi 
  • 1 x plwg pŵer Sonoff 
  • 1 x cebl pŵer

 

Gall hefyd gynnwys :

  • 1 x monitor tymheredd a lleithder emonTH 

Mae’r offer a ddarperir yn eiddo i Ynni Lleol. Mae’n cael ei ddarparu yn rhad ac am ddim yn ystod y treial. Rhaid ei ddychwelyd yn ei focs ar ôl i’r treial orffen. 

Ni chodir unrhyw ffi i osod yr offer tra mae’r offer yn cael ei fenthyg i’r defnyddiwr.

Rhaid cadw’r holl eitemau mewn cyflwr da a’u dychwelyd yn yr un cyflwr â phan dderbyniwyd nhw.

Dylid rhoi gwybod i Ynni Lleol ar unwaith am unrhyw ddiffyg. Caiff diffygion eu cywiro, neu rhoir rhan newydd yn ei le am ddim.

Ni cheir defnyddio’r Pecyn Hwb Cartref at unrhyw ddiben arall, na’i drosglwyddo i eiddo arall, na’i werthu, cyfnewid, addasu, benthyg, datgymalu, marcio, neu niweidio mewn unrhyw ffordd.

Dyluniwyd y Pecyn Hwb Cartref ar gyfer defnydd cartref yn unig.

Rhaid i’r defnyddiwr gymryd sylw a gofal.

Ni fydd Ynni Lleol yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled neu ddifrod a achosir gan gamddefnydd o’r offer yn ystod cyfnod y treial. 
Bydd unrhyw ddifrod sy’n deillio o esgeulustod neu gamddefnydd bwriadus yn gyfrifoldeb y defnyddiwr. Gellir gofyn i’r defnyddiwr dalu cost trwsio neu amnewid. Bydd hyn yn cynnwys difrod a achosir gan hylifau, toddyddion, nwyon cyrydol a hylosg.

 

Yn ôl i Hwb Cartref – Rhywun yn helpu yn y tŷ